Kathoey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Mae gan y kathoey le unigryw yn niwylliant Gwlad Thai ac ni ellir eu cymharu i ddynion [[hoyw]] neu drawsrywiol yn y Gorllewin. Ar y cyfan, maent yn cael eu derbyn fel grŵp arbennig o fewn y gymdeithas.
 
Fel rheol, mae'r kathoey yn dilyn galwedigaethau benywaidd traddodiadol, fel gweithwyr siop, mewn caffis a bwytai, salons pampiopamprio (''beauty salons'') neu siopau gwallt. Mae nifer yn gweithio fel perfformwyr hefyd, e.e. fel dawnswyr mewn sioeau [[cabaret]]. Mae rhai eraill yn gweithio fel [[puteindra|gweithwyr rhyw]]: yn y diwylliant Thai nid yw dyn sy'n cael rhyw gyda kathoey yn cael ei ystyried yn hoyw.
 
Mae'r kathoeys yn rhan amlwg o'r ddiwylliant Thai ac yn cael eu derbyn fel rhan ohono. Mae sawl [[actor|actor(es)]] ffilm, [[model]] a chanwr Thai yn kathoey, ac mae newyddiaduron Thai yn aml yn printio lluniau o enillwyr sioeau harddwch merched a kathoey ochr yn ochr ei gilydd. Mae'r sioeau harddwch hyn yn boblogaidd iawn ac yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi bychain yn ogystal ag yn y dinasoedd mawr.