Elisabeth o Ruddlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

tywysoges a anwyd yng Nghymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Elizabeth of Rhuddlan"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:06, 17 Mai 2018

Roedd Elisabeth o Ruddlan (7 Awst 1282 – 5 Mai1316) yn wythfed plentyn, a'r ieunegaf, i Frenin Edward I a Brenhines Eleanor o Castile. O'i brodyr a'i chwiorydd i gyd, hi oedd yr agosaf i'w brawd Brenin Edward II, gan mai dim ond dwy flynedd oedd rhyngddynt o ran oed.

Priodas gyntaf

Priododd Elisabeth, John o Ipswich ar 8 Ionawr 1297. Yn y briodas roedd chwaer Elisbaeth, Margaret, ei thad, Edward I o Loegr, ei brawd Edward, a Humphrey de Bohun. Ar ôl y briodas roedd disgwyl i Elisabeth fynd i Holland â'i gwr, ond nid oedd yn dymuno gwneud hynny, gan adael i'w gwr fynd ei hun. Yn ôl y sôn, gwylltiodd y brenin a thaflu coron ei ferch i'r tân.[1]

Ar ôl amser penderfynwyd y dylai Elisbaeth ddilyn ei gwr. Teithiodd ei thad gyda hi, drwy Dde'r Iseldiroedd rhwng, Antwerp, Mechelen, Leuven and Brussels, cyn gorffen yn Ghent. Ar 10 Tachwedd 1299 bu farw John o dysentri, er roedd sî ei fod wedi ei ladd. Nid oedd ganddynt blant.

Ail briodas

Ar 14 Tachwedd 1302, priododd Elisabeth Humphrey de Bohun, yn Abaty San Steffan.

Cyfeiriadaeth

  1. T.H. Turner (ed.), Manners and Household Expenses of England in the Thirteenth and Fifteenth Centuries, Illustrated by Original Records (William Nicol/Shakspeare Press, London 1841), pp. lxxvi-vii, note (Internet archive).