Ffermio (rhaglen deledu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11:
Mae Ffermio'n parhau i ddarparu fforwm cyfoes ar gyfer ffermwyr a materion amaeth ac i gwestiynu gwleidyddion ac arweinwyr yr undebau ynglyn â newidiadau sy'n effeithio ar y diwydiant. Fodd bynnag, mae hefyd yn trin a thrafod pynciau gwledig mewn ffordd sy'n apelio at y gynulleidfa drefol a gwledig gyffredinol, sy'n ymddiddori ym mywyd cefn gwlad.
Mae'r [[Bwletin Ffermio]] yn cynnwys manylion cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth a phrisiau'r farchnad er enghraifft, sy'n caniatáu eitemau hirach yn y rhaglenni hanner-awr ar bynciau o ddiddordeb ehangach fel bwyd organig, trafnidiaeth, iechyd a chartrefi mewn ardaloedd gwledig a phortreadau o gymeriadau cefn gwlad o bob oed a chefndir. Mererid Wigley oedd prif gyflwynydd y rhaglen hon, tan Awst 2008. Ymunodd y darlledwr [[Terwyn Davies]] a'r rhaglen fel gohebydd yn Awst 2008, gan ddod yn brif gyflwynydd y rhaglen yn Ionawr 2009.
Mae
Cynhyrchir Ffermio ar gyfer [[S4C]] gan gwmni teledu annibynnol [[Telesgôp]].
|