Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tiger Bay"

Ychwanegwyd 68 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
→‎Hanes: manion
B
(→‎Hanes: manion)
 
==Hanes==
Chwaraeodd datblygudatblygiad Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun a dyfodd o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth [[glo]] [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd y De]] i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.
 
Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daaethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd y llifoedd cryf yn y dŵr rhwng y dociau ac [[Afon Hafren]].
Yn Tiger Bay roedd yna bobl o tua 45 o genhedloedd, yn cynnwys [[Norwyaid]], [[Somaliaid]], [[Iemeniaid]], [[Sbaenwyr]], [[Eidalwyr]], [[Gwyddelod]] a phobl o'r [[Caribî]] gan roi cymeriad amlddiwyllianol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel [[Efrog Newydd]], ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.
 
Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal frwntgaled a pherygl. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. Mewn canlyniad daeth Tiger Bay yn [[ardal golau coch]] adnabyddus]] ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar gyda chymuned glos.
 
Ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]] byd bu trai ar lewyrch y dociau ac aeth Tiger Bay yn ardal ddifreintiedig gyda nifer o adeiladau gwag a dim gwaith ar gael. Dadrywiodd yn gyflym. Yn y 1960au dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r tai teras, y tafarnau niferus a'r siopau cornel.<ref>[[http://www.bbc.co.uk/wales/walesonair/database/tamed.shtml Tiger Bay ar wefan BBC Cymru]</ref>
 
==Diwylliant a phobl==