Neuadd Annibyniaeth Philadelphia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
Mae Neuadd Annibyniaeth Philadelphia, a adeiladwyd rhwng 1732 a 1753, yn adeilad bric coch. Cafodd ei gynllunio mewn arddull Sioraidd gan [[Edmund Woolley]] ac [[Andrew Hamilton]], a chafodd ei adeiladu gan Woolley. Ar y man uchaf, mae'r adeilad 135 feet (41 medr) uwchlaw'r ddaear. Comisiynwyd yr adeilad gan ddeddfwriaeth trefedigaethol Pennsylvania ac yn wreiddiol, defnyddiodd llywodraeth drefedigaethol Pennsylvania yr adeilad fel eu Tŷ Taleithiol. Ceir dau adeilad llai o faint sy'n rhan o'r Neuadd Annibyniaeth: Neuadd yr Hen Ddinas i'r dwyrain a Neuadd y Gyngres i'r gorllewin. Gyda'i gilydd, mae'r tri adeilad ar floc o'r ddinas a elwir Sgwâr Annibyniaeth, ynghyd â'r Neuadd Athronyddol, cartref cyntaf Cymdeithas Athronyddol yr Unol Daleithiau.
 
===Cloch Rhyddid Philadelphia===
:''Prif erthygl: [[Cloch Rhyddid Philadelphia]].''
[[delwedd:180px-Independence_Hall_belltower.jpg|bawd|chwith|Y clochdwr ar frig Neuadd Annibyniaeth lle'r arferai'r Gloch Rhyddid gael ei lleoli]]
Clochdwr Neuadd Annibyniaeth Philadelphia oedd cartref cyntaf y "Gloch Rhyddid" ac erbyn heddiw mae yno "Gloch Canmlwyddiant" a grëwyd ar gyfer Arddangosfa Canmlwyddiant yr Unol Daleithiau ym 1876. Arddangosir y gloch wreiddiol, gyda'i chrac unigryw yn y Ganolfan Liberty Bell sydd yr ochr arall yr heol. Ym 1976, ymwelodd [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|Brenhines y Deyrnas Unedig, Elizabeth II]] â Philadelphia a chyflwynodd anrheg o gopi o'r Gloch Dau Ganmlwyddiant i bobl yr Unol Daleithiau. Lleolir y gloch hon yn y clochdwr modern ar y 3ydd Stryd ger y Neuadd Annibyniaeth.
 
==Gweler hefyd==