Asokavadana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici
delwedd
Llinell 1:
Testun [[Sansgrit]] yw'r '''''Asokavadana''''' (Sansgrit: अशॊकवदन 'Buchedd neu Hanes Asoka') sy'n rhoi hanes chwedlonol yr [[Asoka]], ymerawdwr [[Ymerodraeth y Maurya]] yn [[India]] o [[268 CC]] hyd [[231 CC]] sydd â lle pwysig yn hanes [[Bwdhaeth]]. Ysgrifenwyd y testun yn y 3edd ganrif OC yn [[India]] gan awdur anhysbys.
 
[[Delwedd:Asokanpillar-crop.jpg|200px|bawd|Piler Asoka, Vaishali, [[Bihar]]]]
Roedd ymerodraeth Asoka yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn [[Afghanistan]] hyd [[Bengal]] ac i’r de cyn belled a [[Mysore]]. Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad [[Bwdhaeth]] ac ymwrthododd a rhyfel. Yn [[250 CC]], cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawss Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys [[Bactria]], [[Nepal]], [[Myanmar]], [[Gwlad Thai]] a [[Sri Lanka]], ac efallai cyn belled ag [[Alexandria]] yn yr Aifft, [[Antioch]] ac [[Athen]].