Ystrad Meurig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
llun; ymchwil newydd
Llinell 1:
[[Delwedd:Ystrad Meurig.jpg|200px|bawd|de|Golygfa ger Ystrad Meurig.]]
Pentref bychan a phlwyf uwchben [[Dyffryn Teifi]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] yw '''Ystrad Meurig''' (neu '''Ystradmeurig'''). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng [[Pontrhydfendigaid]] i'r dwyrain a [[Lledrod]] i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o [[Aberystwyth]].
 
Saif y pentref ger tro ar [[Afon Teifi]] filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger [[Cors Caron]]. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion [[castell Ystrad Meurig]] a godwyd gan [[Gilbert de Clare]] ym [[1116]]. Llosgwyd y [[castell mwnt a beili]] hwnnw gan meibion [[Gruffudd ap Cynan]] yn [[1137]]; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnol yn [[1199]].<ref>''Cestyll Ceredigion''.</ref> Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.<ref>[http://www.lamp.ac.uk/strata-florida/research_project/landscape_project.html Ymchwil archaeolegol ar y safle]</ref>

Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir [[bryngaer]] fechan.
 
Ganwyd y bardd ac ysgolhaig [[Edward Richard]] yno ym mis Mawrth [[1714]]. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o [[1734]] hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion [[Lewis Morris]], mab [[William Williams Pantycelyn]] ac [[Ieuan Fardd]].
 
===Ffynonellau=Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Ffynonellau==
*Afan ab Alun, ''Cestyll Ceredigion'' (Llanrwst, 1991)
*T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' (Llyfrau'r Dryw, 1952)
 
{{Trefi Ceredigion}}
 
[[Categori:Pentrefi Ceredigion]]