Myfanwy Haycock: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

artist ac awdur
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Myfanwy Haycock"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:00, 24 Mai 2018

Ganwyd Myfanwy Haycock (1913–1963), yn Blodwen Myfanwy Haycock ym Mhontnewynydd, Cymru wrth ymyl Pontypwl. Roedd hi'n fardd, artist a darlledydd.

Bywyd cynnar ac addysg

Roedd hi'r ieuengaf o dair chwaer i lowr, James David Haycock a'i wraig, Alice Maud. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Cwm-ffrwd-oer ac ysgol ramadeg i ferched ym Mhontypwl, a chael ei derbyn i Goleg Technegol Caerdydd.[1]

Gweithiai fel darlunydd du a gwyn ond roedd hefyd yn llwyddiannus gyda'i barddoniaeth. Enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Port Talbot yn 1932.[2]

Penderfynodd gefnu ar ei gyrfa fel athrawes arlunio a mynd yn newyddiadurwraig llawrydd.

O 1936, ysgrifennodd gerddi a straeon byrion a gynhwysai ddarluniau du a gwyn yn aml. Cyhoeddwyd ei gwaith yn y Western Mail, Caerdydd a phapurau De Cymru eraill.

Yr Ail Ryfel Byd

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth hi'n glerc cyflogau mewn ffatri arfau rhyfel yn Nglascoed rhwng Pontypwl ac Usk.

Yn 1943 ymunodd a'r BBC yn Llundain lle darlledwyd dwy o'i dramau radio. Rhoddodd ddarlleniadau cyson ar y radio a dechreuodd newyddiadura unwaith eto yn 1945, yn Llundain, yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer papurau newydd amrywiol.

Cynlluniodd gardiau, cyhoeddi cerddi, darlunio llyfrau a daeth yn aelod o Gymdeithas o Newyddiadurwyr Benywaidd.

Bywyd teuluol

Yn 1947 priododd Dr. Arthur Meirion Williams o Borth. Roedd yn byw yn Buckland wrth Reigate, ac roedd ganddynt dri o blant.

Bu farw yn 1963.

Caiff ei hadnabod orau am ysgrifennu 'Mountain Over Paddington' yn 1964 a'i chasgliad o gerddi 'Poems' yn 1944 a 'More Poems' yn 1945.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadaeth

  1. "HAYCOCK , BLODWEN MYFANWY". Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd 23 December 2014.
  2. "Council hunt for family of Torfaen Eisteddfod winner". South Wales Aegus. 18 February 2009. Cyrchwyd 23 December 2014.