Whithorn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: gd, nl, no, pl
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Tref yn sir [[Dumfries a Galloway]] yn ne-orllewin [[yr Alban]] yw '''Whithorn''' ([[Gaeleg]]: '''''Taigh Mhàrtainn'''''). Poblogaeth: 867 (2001). Mae'n gorwedd ar arfordir [[Galloway]] tua 10 milltir i'r de o [[Wigtown]].
 
Mae gan Whithorn hanes hir. Ystyr yr enw yw 'Y Tŷ Gwyn' ([[Eingl-Sacsoneg]]: ''Hwit Ærne''), cyfeiriad at y ganolfan eglwysig a sefydlwyd yno gan Sant [[Sant Ninian]], yn ôl traddodiad. Daeth yn ganolfan [[pererindod]] o bwys.
 
Fel gweddill ardal Galloway, roedd Whithorn yn rhan o'r [[Hen Ogledd]] ac mae'n bosibl y bu'n rhan o deyrnas [[Rheged]] am gyfnod. Yna daeth dan reolaeth [[Brynaich]] Eingl-Sacsonaidd. Yn nes ymlaen bu'n rhan o [[Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd|Deyrnas Manaw a'r Ynysoedd]]. Codwyd priordy cadeiriol yno yn yr Oesoedd Canol sy'n adfail heddiw. Cedwir y casgliad pwysig o gerrig cerfiedig cynnar o'r priordy yn [[Amgueddfa Genedlaethol yr Alban]]: dyma'r casgliad mwyaf o'r cerrig Cristnogol hyn yn yr Alban.