Brwydr Aberconwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Ymladdwyd Brwydr Aberconwy yn y flwyddyn 1194 ger Conwy (Aberconwy) rhwng Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr yn ddiweddarach) a'i ewythr [[Dafydd ab…
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ymladdwyd [[Brwydr Aberconwy]] yn y flwyddyn [[1194]] ger [[Conwy (tref)|Conwy]] (Aberconwy) rhwng [[Llywelyn ap Iorwerth]] ([[Llywelyn Fawr]] yn ddiweddarach) a'i ewythr [[Dafydd ab Owain Gwynedd]]. Mae'n bosibl y bu ewythr arall, sef [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], yn bresennol ar ochr Dafydd hefyd.
 
Digwyddodd y frwydr ar lan aber [[Afon Conwy]] ger safle presennol tref Conwy. Ymladdodd Llywelyn gyda chymorth ei gefndyr [[Maredudd ap Cynan|Maredudd]] a [[Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]]. Cafodd fuddugoliaeth fawr ar fyddin Dafydd a osododd y sylfeini i'w deyrnasiad hir fel [[Teyrnas Gwynedd|Tywysog Gwynedd]] a [[Tywysog Cymru|Chymru]].
 
Cyfeirir at y fuddugoliaeth bwysig hon mewn cerddi gan y beirdd [[Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch)]] a [[Cynddelw Brydydd Mawr]]. Dyma ran o ddisgrifiad Cynddelw:
 
:Ni bu lledrad cad cadr Aber—Conwy,
:Cynnechrau fy udd nêr;
:Cynnygn fy llyw oedd llawer,
:Cwyddynt yng ngif seithrif sêr.<ref>Nerys Ann jones ac Ann Parry Owen (gol.), ''Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr'', cyfrol II (Caerdydd, 1995), cerdd 13, llinellau 9-13. Aralleiriad: 'Ni bu byddin un gwych Aberconwy yn llechwraidd / [Ar] ddechreuad [gyrfa] fy arglwydd-bennaeth; / Niferus oedd gelynion fy arweinydd / [Ond] syrthiai saith gwaith rhif y sêr yn farw yn [yr] ymrafael.'</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Ffynonellau==
*J. E. Lloyd. ''A History of Wales'' (Llundain, 1939), tt. 588-9.
 
[[Categori:1194]]