Bryn Euryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Saif Bryn Euryn fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn, ym [[Conwy (sir)|mwrdeistr…
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Saif [[Bryn Euryn]] fymryn i'r gorllewin o [[Llandrillo-yn-Rhos|Landrillo-yn-Rhos]], tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o [[Bae Colwyn|Fae Colwyn]], ym [[Conwy (sir)|mwrdeistref sirol Conwy]]. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan [[bryngaer|fryngaer]].
 
Codwyd caer ar ben y bryn yn [[Oes yr Haearn]]. Does dim tystiolaeth archaeolegol iddi gael ei defnyddio yng [[cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]], ond ymddengys i'r hen gaer gael ei hatgyweirio ar ddechrau'r cyfnod ôl-Rufeinig, mor gynnar â'r 5ed ganrif efallai, a chael ei defnyddio fel amddiffynfa.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys'', cyfres ''Ancient and Historic Wales'' (HMSO, 1995), tud. 53</ref> Mae traddodiad<ref>Thomas Pennant, ''Teithiau yng Nghymru'', tud. 444.</ref> yn ei chysylltu â'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] (tua 480-547) ac a atgyfnerthodd [[Castell Degannwy|Gaer Ddegannwy]], rhai milltiroedd i'r gorllewin, ar ddechrau'r 6ed ganrif.
 
Ar y copa ceir olion dwy gorlan amddiffynnol, mewnol ac allanol, ac olion adeiladau hirsgwar sydd i'w dyddio i'r Oesoedd Canol cynnar. Hefyd o'r cyfnod hwnnw, ceir gweddillion dau gwningar crwn.<ref>''Clwyd and Powys'', tud. 54</ref>