Coleg y Bala: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Coleg y Bala''' yw canolfan gwaith plant ac ieuenctid [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru]]. Saif yr adeilad presennol a adeiladwyd ym 1863, ar bwys y ffordd sy'n arwain o'r Bala i [[Borthmadog/Porthmadog]]. Codwyd yr adeilad fel Coleg Hyfforddi enwad y [[Methodistiaid Calfinaidd]] ar gyfer y weinidogaeth. Bu drwy lawer o gyfnewidiadau yn ei hanes, ac erbyn diwedd ei gyfnod fel coleg hyfforddi, yr oedd y flwyddyn baratoad ymarferol ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yn cael ei gynnig yno tra 'roedd y rhan fwyaf o'r cwrs hyfforddi diwinyddol yn cael ei gynnig yn y [[Coleg Diwinyddol Unedig]] yn Aberystwyth]]. (Nid oes unrhyw gysylltiad rhyngddo â [[Choleg/Coleg Bala-Bangor]]).
Wedi aros yn segur am rhai blynyddoedd, pryd y cafodd y llyfrgell eang oedd yno ei dosbarthu a'i rhannu, fe gafwyd gweledigaeth i droi yr adeilad yn ganolfan gwaith ieuenctid. Bu'r [[Parch. Dafydd Owen]] yn gyfrifol am sefydlu'r gwaith hwn ym 1968. Ei weledigaeth oedd gweld canolfan gyd enwadol a fyddai'n annog ac yn cynnig hyfforddiant yn eu ffydd i ieuenctid yng Nghymru. Er na welwyd yr enwadau Cymreig eraill yn rhoi eu cefnogaeth i'r ganolfan, fe dyfodd y gwaith a ffrwytho yn helaeth o dan arweiniad nifer o Swyddogion Ieuenctid dros y blynyddoedd. Yn fuan iawn, o dan arweiniad [[Miss. Gwen Rees Roberts]] (ar ôl ei dychweliad hi o'r [[Maes Cenhadol]] ym [[Mizoram]], fe ddaeth y gwaith i gynnwys gweithio ymhlith plant hefyd.
Trwy gydol y flwyddyn, mae'r Coleg yn rhedeg nifer o gyrsiau ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Mae nifer o eglwysi a chlybiau ieuenctid ar draws Cymru yn anfon criwiau yno. Edrychir ymlaen bellach at y Cwrs Hyfforddi[[Souled Out]] ar gyfer ieuenctid o 15 oed i fyny, sydd yn digwydd yn flynyddol ym mis Awst ac yn un o'r bendithion mwyaf sydd gennym ymhlith ieuenctid Cristnogol ein gwlad.