Ffatri Rwber Brynmawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

ffatri yng Nghymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|Y tŷ boeler, yr unig ran o'r ffatri i osgoi cael ei dymchwel. Roedd '''Ffatri...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:39, 31 Mai 2018

Roedd Ffatri Rwber Brynmawr yn adeilad diwydiannol ym Mrynmawr, Blaenau Gwent. Roedd yr adeilad yn nodedig fel enghraifft bwysig ac anarferol o bensaernïaeth fodern ymysg tirwedd diwyddiannol Cymru; fe'i disgrifiwyd yn un o adeiladau mdoern pwysicaf Cymru ac hi oedd yr adeilad cyntaf ym Mhrydain a adeiladwyd ar ôl ail ryfel byd i gael ei rhestru.[1]

Y tŷ boeler, yr unig ran o'r ffatri i osgoi cael ei dymchwel.

Adeiladwyd y ffatri rhwng 1946-1951 ar ran gwmni rwber Brimsdown, ar gyfer cynhyrchu ystod o ddeunyddiau rwber (teiars gan bennaf); fe'i gwerthwyd yn ddiweddarach i Dunlop er mwyn cynhyrchu lloriau feinyl. Nodwedd mwyaf trawiadol y ffatri oedd y naw dom mawr uwchben prif lawr y ffatri ag ynddynt ffenestri crwn. Roedd y domau hyn yn caniatau i olau gyrraedd y llawr islaw tra'n cadw'r lle yn agored a rhydd rhag bileri a fyddai wedi cyfyngu pa beiriannau y byddai wedi bod modd eu ffitio o fewn yr adeilad.

Cydnabuwyd pensaernïaetrh y ffatri gan nifer fawr, yn eu plith y pensaer Americanaidd Frank Lloyd Wright a ddaeth i Gymru i'w weld.[2] Fodd bynnag ni fu y ffatri erioed yn llwyddiant ariannol ac roedd wedi cau erbyn adeg rhestru'r adeilad gan Swyddfa Cymru yn 1986. Er gwaethaf ei statws rhestredig, dirywiodd yr adeilad yn sylweddol drwy diffyg defnydd yn ystod y 1990au ac er gwaethaf ymdrechion i'w achub, dymchwelwyd y ffatri yn 2001 er mwyn defnyddio'r tir ar gyfer datblygu.[2]

  1. David Baker a Gail Chitty, Managing Historic Sites and Buildings: Reconciling Presentation and Preservation, t.159
  2. 2.0 2.1 https://c20society.org.uk/lost-modern/brynmawr-rubber-factory-gwent-wales