Pensaernïaeth Friwtalaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 21:
Ymestyniad oedd Pensaernïaeth Friwtalaidd o nifer o syniadau oedd yn gyffredin mewn mathau cynharach o bensaernïaeth fodern, sef [[moderniaeth|foderniaeth]]. Mae adeiladau briwtalaidd yn blaen, gyda phwyslais ar bwrpas ac ymarferoldeb yn hytrach nac ymddangosiad. Fodd bynnag, nid yw'n gywir dweud nad oedd ymddangosiad adeiladau briwtalaidd yn ystyriaeth i'r penseiri, ond yn hytrach bod eu golwg llym yn fwriadol. Yn hytrach nag addurdno manwl, defnyddir maint a siap adeilad i greu argraff. Oherwydd y pwyslais hyn ar bŵer a maint, mae adeiladau briwtalaidd yn aml yn enfawr ac mae'r adeiladau briwtalaidd mwyaf nodedig yn tueddu bod yn adeiladau cyhoeddus (ysbytai, canolfannau siopa ac ati) neu flociau o fflatiau yn hytrach na thai unigol, er y ceir nifer o enghreifftiau o dai unigol yn yr arddull hefyd.
 
Fel mae'r enw yn awgrymu, mae concrit amrwd yn ddeunydd cyffredin ar gyfer waliau allanol adeiladau briwtalaidd, a hyn yn bennaf sy'n eu gwahaniaethu o adeiladau mewn dulliau modernaidd eraill o'r un cyfnod, er enghraifft yr [[Yr Arddull Ryngwladol|arddull ryngwladol]] lle ceir pwyslais ar wydr yn hytrach na choncrit. Fodd bynnag, cafodd rhai eu hadeiladu o ddeunyddiau eraill a wedyn eu gorchuddio â rendr neu gladin, fel arfer heb eu paentio, i greu effaith tebyg i goncrit amrwd. Defnyddir y term 'briwtaliaeth friciau' weithiau i ddisgrifio adeiladau sy'n cyfuno agweddau cadarn a llwm briwtaliaeth â defnydd helaeth o friciau yn lle, neu'n ogystal â concrit. Mae nifer o adeiladau briwtalaidd sy'n dal i gael eu defnyddio wedi eu hadnewyddu drwy gladin modern, lliwgar, er bod hyn yn aml yn groes i egwyddorion aesthetig gwreiddiol yr arddull.
 
Roedd agwedd wleidyddol [[Sosialaeth|Sosialaidd]], democrataidd gan nifer o benseiri adnabyddus a oedd yn gweithio yn yr arddull, gan gynnwys Le Corbusier a'r penseiri Seisnig [[Alison a Peter Smithson]]. Roedd yr agwedd hyn yn enwedig o amlwg ymysg y prosiectau tai cyhoeddus niferus a adeiladwyd yn yr arddull, gyda'r syniad bod gan bawb a oedd yn byw ynddynt gartref unfath, a'u bod yn rhannu cyfleusterau cyhoeddus megis ystafelloedd golchi a gerddi. Gan nad oedd cydlyniad amlwg rhwng pensaernīaeth friwtalaidd â dulliau pensaernīol traddodiadol unrhyw wlad benodol, roedd elfen gynhwysol, fyd-eang i'r arddull, agwedd sydd wedi'i adlewyrchu yn yr enw ar arddull bensaernīol gwahanol sy'n gorgyffwrdd i raddau â'r arddull friwtalaidd, sef yr [[yr Arddull Ryngwladol]].
 
== Pensaernīaeth Friwtalaidd yng Nghymru ==