Mynyddoedd yr Atlas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: oc:Atlàs (massís)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:AtlasRange.jpg|250px|bawd|Lleoliad Mynyddoedd yr Atlas (mewn coch) ar draws Gogledd Affrica]]
 
Cadwyn o [[mynydd|fynyddoedd]] yng ngogledd-orllewin [[Affrica]], sy'n ymestyn am tua 1,500 milltir (2,400 km) trwy [[Moroco]] ac [[Algeria]] i ogledd [[Tunisia]] yw '''Mynyddoedd yr Atlas''' ([[Berbereg]]: '''''Idurar n leṭles''''', [[Arabeg]]: '''''جبال الأطلس''''' ). [[Jbel Toubkal]] (4167 m), yn ne-orllewin Moroco, yw'r copa uchaf. [[M'Goun]] (4071 m) yw'r ail uchaf. Gorwedd yr Atlas rhwng y [[Môr Canoldir]] (i'r gogledd) a [[Cefnfor Iwerydd|Chefnfor Iwerydd]] (i'r gorllewin) ac [[anialwch]] y [[Sahara]], gan eu gwahanu. Mae mwyafrif poblogaeth frodorol Mynyddoedd yr Atlas yn [[Berberiaid|Ferberiaid]], ym Moroco, a [[Kabyliaid]], yn Algeria. Yn ôl mytholeg y [[Groeg]]iaid, enwir y mynyddoedd ar ôl yr arwr [[Atlas]]; mewn rhai o'r ieithoedd [[ieithoedd Berber]] mae ''adrar'' neu ''adras'' yn golygu "mynydd" ac felly mae'n debyg mae ffurf Roeg ar yr enwau hynny yw ''Atlas''.
 
Ymrennir y mynyddoedd yn sawl cadwyn ac is-gadwyn, yn cynnwys (o'r gorlelwin i'r dwyrain) yr [[Atlas Uchel]], yr [[Atlas Canol]], a'r [[Anti-Atlas]] (neu Wrth-Atlas). Ger arfordir y gogledd ceir yr [[Atlas Tell]], sy'n cynnwys mynyddoedd y [[Rif]], ac [[Atlas y Sahara]] i'r de sy'n gorffen ym [[Mynyddoedd Aurès]] rhwng Algeria a Tunisia. Yn Tunisia ei hun gellid ystyried y [[Kroumirie]] a'r [[Dorsal Tunisia|Dorsal]] yn ymestyniadau olaf yr Atlas i'r dwyrain.