Ynys Fochras: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
CnauPell (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
}}
 
Saif '''Ynys Fochras''' ({{Sain|Ynys Fochras.ogg|ynganiad}}) (Saesneg: ''Shell Island'') i'r gorllewin o [[Llanbedr, Gwynedd|Lanbedr]], [[Gwynedd]] rhwng mynyddoedd y [[Rhiniogydd]] a môr Iwerddon - ar bentir. Fe'i ffurfiwyd wedi i Iarll Finch (sef George Finch, 9fed iarll Winchilsea) ddargyfeirio'r afon [[Artro]] yn 1819. Cyn hynny roedd aber yr afon ger lleoliad presennol Mochras, a'r fynediad i'r 'ynys' drwy bentref bychan [[Llandanwg]], sydd bellach yr ochr arall i'r aber. Yn ôl traddodiad lleol, dyma'r fynediad i [[Cantre'r Gwaelod|Gantre'r Gwaelod]].
 
Mae'r fynedfa gyhoeddus i gerbydau dros sarn (''causeway'') ar draws yr aber, pan fo'r llanw ar drai. Gall berson ar droed groesi unrhyw amser - o draeth Mochras neu Forfa Dyffryn. Ceir maes awyr gerllaw yn ogystal â [[maes pebyll]].<ref>[http://www.ukcampsite.co.uk/sites/reviews.asp?revid=2693 UKCampsite.co.uk - Caravan Parks and Camping Sites Index<!-- Bot generated title -->]</ref> Saif Mochras oddi fewn i [[Parc Cenedlaethol Eryri|Barc Cenedlaethol Eryri]], ac o'r herwydd mae'n rhaid i'r maes pebyll gau yn Hydref hyd at Fawrth. Yn ystod y cyfnod hwn gall ffermwyr bori eu defaid yma ar yr ynys.