Gwrth-Semitiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lv:Antisemītisms
Llinell 17:
Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf [[Natsïaeth]] [[yr Almaen]], pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth [[Iddew|Iddewig]] [[Ewrop]].
 
Mae rhai'n honni erbyn hyn bod trydedd ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi datblygu, sef Gwrth-Semitiaeth Wleidyddol, wedi'i seilio ar wrthwynebiad i Wladwriaeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Mae'r honiad hwn wedi deillio o bryder nad yw rhai o wrthwynebwyr [[Israel]] yn gwahaniaethu rhwng anghytuno â pholisïau llywodraeth [[Israel]] a lladd ar [[Iddewon]] yn gyffredinol. Mae mudiad [[Iddew|Iddewig]] y Gynghrair Wrth-Ddifenwi wedi tynnu sylw at y syniadau negyddol iawn am [[Iddewon]] fel pobl sydd i'w cael yn y gwledydd Arabaidd dan orchudd beirniadaeth wleidyddol i bolisïau llywodraeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Ond yn hanesyddol mae'r gwledydd [[Islam]]ig ac Arabaidd wedi bod yn llawer mwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol.
 
Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain [[Ewrop]], dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu trefysg gwrth-Iddewig yn [[Tredegar|Nhredegar]] yn [[1911]], pan ymosododd torf ar siopau [[Iddewon]] gan ganu emynau [[Cristnogaeth|Cristnogol]]. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn [[Tredegar|Nhredegar]], [[Glyn Ebwy]], [[Cwm]] a [[Bargoed]].
 
==Gweler hefyd==
[http://people.pwf.cam.ac.uk/dwew2/hcwl/gbc/gbc_frames.htm Link]
* [[Neo-Natsïaeth]]
 
 
[[Categori:Gwrth-Semitiaeth| ]]