Ieithoedd Slafonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
{{legend|#004040|Gwledydd lle mae [[iaith Slafonaidd Ddeheuol]] yn iaith genedlaethol}}]]
 
Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r '''ieithoedd Slafonaidd'''. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafonaidd gorllewinol ([[Pwyleg]], [[Slofaceg]], [[Sorbeg]] a [[Tsieceg]]), yr ieithoedd Slafonaidd dwyreiniol ([[Belarwsieg]], [[Rwsieg]] ac [[Wcreineg]], a'r ieithoedd Slafonaidd deheuol ([[Bosneg]], [[Bwlgareg]], [[Croateg]], [[Macedoneg]], [[Serbeg]] a [[Slofeneg]]). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafonaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafonaidd eraill wedi marw: [[Hen SlafonigSlafoneg Eglwysig]] (Slafonaidd deheuol) a Polabeg (iaith Slafiaid gogledd-orllewin yr Almaen).
 
Heddiw mae'r ieithoedd Slafonaidd yn defnyddio naill ai'r [[gwyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] neu'r [[gwyddor Ladin|wyddor Ladin]] ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd gorllewinol a deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio [[Bwlgareg]], [[Macedoneg]], ac, i radd helaeth, [[Serbeg]], sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafonaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer [[Hen SlafonigSlafoneg Eglwysig]] gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif ymlaen yn y gwledydd Slafonaidd deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
 
[[Category:Ieithoedd Slafonaidd|*]]