Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ref
Llinell 1:
Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig a adwenid yn yr [[Oesoedd Canol]] fel [[yr Hen Ogledd]]<ref>Gwyddoniadur Cymru tud 330, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008</ref> oedd '''Elmet''' (Cymraeg Diweddar: '''[[Elfed]]'''). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] yn ngogledd [[Lloegr]], yn yr ardal o gwmpas dinas [[Leeds]]. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod [[Afon Sheaf]] yn ffin iddi yn y de, ac [[Afon Wharfe]] yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar [[Deira]] ac yn y de ar [[Mercia]].
 
Ymosodwyd ar Elmet gan [[Northumbria]] yn hydref [[616]] neu [[626]]. yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir sôn am [[Edwin, brenin Northumbria]] ''"occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis"'' ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd [[Ceredig ap Gwallog|Certic]], brenin y wlad honno").