Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Casgliad enwog o bedair [[chwedl]] [[Mytholeg|fytholegol]] [[Cymraeg|Gymraeg]] a roddwyd ar [[Memrwn|femrwn]] yn ystod [[yr Oesoedd Canol]] ond sy'n deillio o'r [[traddodiad llafar]] yw '''Pedair Cainc y Mabinogi'''. Y golygiad safonol yw cyfrol [[Ifor Williams]] (=PKM isod).
 
Y pedair chwedl yw: [[Pwyll, Pendefig Dyfed]], [[Branwen ferch Llŷr|Brânwen ferch Llŷr]], [[Manawydan fab Llŷr]], a [[Math fab Mathonwy]]. Cyfeirir atynt hefyd fel "Y Gainc Gyntaf", ac ati.
 
==Y llawysgrifau==
Llinell 8:
 
==Cyfnod y chwedlau==
Daw'r testunau uchod i gyd o destun neu destunau cynharach (dim hwyrach na tua [[1200]]) ac mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cynnig dyddiad o gwmpas ail hanner yr [[11eg ganrif]] ar gyfer cyfansoddi'r Pedair Cainc yn eu ffurf bresennol ([[1060]] yw awgrym Ifor Williams). Nodweddir PKM gan absenoldeb y [[Saeson]] a'r [[Normaniaid]]. Ni cheir cyfeiriad at y [[Rhufeiniaid]] chwaith. Mae [[Ynys Prydain]] ym meddiant y [[Brythoniaid]] ac mae gan y Brythoniaid berthynas agos ond cymhleth â'r [[Gwyddelod]] yn [[Iwerddon]]. Cleddir pen [[Bendigeidfran|Bendigeidfrân]] yn y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]] er mwyn gwarchod yr ynys rhag goresgynwyr, sy'n awgrymu fod rhyw gwmwl ar y gorwel. Byd cwbl Geltaidd yw byd y Pedair Cainc ac felly mai lle i gredu eu bod yn deillio o ddiwedd [[Oes yr Haearn]] (fel yn achos rhai o'r chwedlau [[Gwyddeleg]] yn Iwerddon).
 
==Yr awdur==
Llinell 16:
:''Rhoddir amlinellaid o'r Pedair Cainc yn eu cyfanrwydd yma. Am grynodebau llawnach o gynnwys y Ceinciau unigol, gweler yr erthyglau perthnasol ('Gweler hefyd' ar waelod y dudalen)''.
 
Mae hanes [[Pryderi]], mab [[Pwyll]] a [[Rhiannon]], yn asio'r chwedlau ynghyd. Yn y Gainc Gyntaf ceir hanes ei eni, yn yr Ail ei anturiaethau gyda [[Manawydan]] ac yn y bedwaredd y digwyddiadau sy'n arwain at ei farwolaeth. Mae cainc BranwenBrânwen ferch Llŷr yn dipyn o eithriad ond yn cyfeirio at Bryderi a Manawydan.
 
Y mae'r Gainc Gyntaf, ''Pwyll, Pendefig Dyfed'', yn agor gyda hanes Pwyll yn cyfarfod [[Arawn]], brenin [[Annwfn]] (yr [[Arallfyd]]) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill Rhiannon yn wraig iddo'i hun. Genir Pryderi ac yna ei golli a'i gael eto fel [[Gwri Gwallt Eurin]] yn llys [[Teyrnon]] yng [[Gwent|Ngwent]]. Ar ddiwedd y gainc mae Pryderi'n olynu ei dad fel Pendefig Dyfed gan ychwanegu saith [[Cantref|gantref]] [[Seisyllwg|Seisyllwch]] i'w diriogaeth.
 
Yn yr Ail Gainc, ''BranwenBrânwen ferch Llŷr'', mae Brân fab Llŷr ([[Bendigeidfran|Bendigeidfrân]]) yn rheoli [[Prydain]] o [[Harlech]] ac [[Aberffraw]]. Mae ganddo ddau frawd, Manawydan ac [[Efnisien]], y naill yn fwyn a'r llall yn wyllt a rhyfelgar. Gweithred ddibwyll Efnisien yn sarhau [[Matholwch]], brenin Iwerddon, sydd wedi dod i briodi [[Branwen|Brânwen]], yw cychwyn helyntion y gainc ac yn arwain at gyrch Brân a'i wŷr i Iwerddon gyda chanlyniadaiu trychinebus. Dim ond Seithwyr o'r Cymry sy'n osgoi'r gyflafan, gan gynnwys Pryderi, Manawydan a [[Pendaran Dyfed]]. Mae'r gainc yn gorffen gyda'r daith yn ôl i Gymru, marwolaeth BranwenBrânwen ym Môn a chladdu Pen BendigeidfranBendigeidfrân yn Llundain.
 
Yn y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', mae [[Caswallawn fab Beli]] wedi meddianu Ynys Prydain. Mae Pryderi yn rhoi ei fam yn wraig i'w gyfaill Manawydan ac am gyfnod mae bywyd yn braf yn Nyfed, ond yna mae [[Llwyd fab Cilcoed]] yn taflu hud ar y wlad. Cosbir Rhiannon a Phryderi ond mae Manawydan yn eu rhyddhau.
Llinell 32:
Cyfyngir digwyddiadau y Gainc Gyntaf, ''Pwyll Pendefig Dyfed'', yn gyfangwbl i Ddyfed, ac yn neilltuol i ardal y [[Preseli]]. Ac eithrio "gwibdaith" i [[Gwent|Went]] sy'n ymylol i brif ffrwd y chwedl, mae pob dim yn digwydd o fewn cylch o tua pymtheg milltir o [[Arberth]], prif lys Pwyll (gogledd [[Sir Benfro]] heddiw. Mae daearyddiaeth y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', yn fwy cyfyng eto; Dyfed hud a lledrith o gwmpas Arberth a "gwibdaith" i [[Henffordd]] (yn [[Lloegr]] heddiw ond yn rhan o deyrnas [[Powys]] yn yr Oesoedd Canol cynnar).
 
Yn achos yr Ail a'r Bedwaredd Gainc mae'r darlun yn wahanol iawn. Mae prif ddigwyddiadau'r ddwy gainc yn digwydd yn yr hen [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]], gydag ambell "gwibdaith" y tu allan i'r deyrnas honno. Yn yr Ail Gainc, ''BranwenBrânwen ferch Llŷr'', mae'r digwyddiadau'n cymryd lle ym [[Môn]] ([[cantref]] [[Aberffraw (cantref)|Aberffraw]] a [[Cwmwd|chwmwd]] [[Talybolion]]), cantref [[Arfon]] a [[Harlech]] yn [[Ardudwy]] sy'n fel prifddinas [[Ynys Prydain]] yn y chwedl. Ceir dwy wybdaith yn chwedl BranwenBrânwen, un i [[Iwerddon]] a'r llall i ynys [[Gwales]] arallfydol a'r [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]].
 
Dim ond yn y Bedwaredd Gainc, ''Math fab Mathonwy'', y gwelir lleoli manwl gyda'r digwyddiadau'n cymryd lle yn Arfon, [[Arllechwedd]], [[Llŷn]], [[Eifionydd]] ac [[Ardudwy]] (cnewyllyn teyrnas Gwynedd, sy'n cyfateb yn fras i'r hen [[Sir Gaernarfon]]. Ceir gwybdaith yma hefyd, wrth i Wydion ymweld â llys Pryderi yn [[Rhuddlan Teifi]] yn Nyfed i ddwyn moch hud a lledrith Pryderi yn ôl i Wynedd.