Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
tacluso'r categoriau
Llinell 1:
Roedd '''Thomas Edwards''' (bu farw [[17 Ebrill]] [[1813]]), (yn fwy adnabyddus fel '''Yr Hwntw Mawr'''), yn [[Llofruddiaeth|llofrudd]] a'r person olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus yn [[Sir Feirionnydd]].
 
Er gwaethaf ei enw, ymddengys mai [[Gogledd Cymru|gogleddwr]] oedd yr [[De Cymru|Hwntw]], ac iddo gael y llysenw oherwydd iddo weithio yn y de am gyfnod. Bu hefyd yn gweithio yng ngwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ar [[Ynys Môn]]. Dywedir ei fod o faint a chryfder anarferol.
 
Pan faluriwyd y Cob ym [[Porthmadog|Mhorthmadog]] gan storm yn fuan ar ôl ei hadeiladu, daethpwyd a nifer fawr o weithwyr i'w drwsio, gyda Thomas Edwards yn eu plith. Daeth i wybod fod swm sylweddol o arian yn cael ei gadw yn ffermdy Penrhyn Isaf, heb fod ymhell o [[Minffordd]] a gerllaw [[Portmeirion]]. Un diwrnod pan oedd yn credu fod pawb yn brysur gyda'r cynhaeaf, aeth i'r ffermdy a cheisio agor drôr y seld lle cedwid yr arian. Roedd morwyn ddeunaw oed o'r enw Mary Jones gatref yn paratoi bwyd i'r cynaeafwyr, a daeth i mewn i'r ystafell a dal yr Hwntw. Llofruddiodd yntau hi â gwellaif gneifio.
Llinell 7:
Parodd y llofruddiaeth ddychryn mawr yn yr ardal, a syrthiodd amheuaeth ar yr Hwntw. Ceisiodd yntau ddianc gyda chriw o ddynion ar ei ôl, a bu ymladdfa wrth iddo geisio croesi [[Afon Dwyryd]]. Boddwyd un o'r ymlidwyr, Robert Williams, ewythr i Mary Jones, ond daliwyd yr Hwntw. Gyrrwyd ef i dref [[Dolgellau]] yng ngofal chwech cwnstabl, ac wedi ei rwymo ar gefn ceffyl. Er hynny, llwyddodd i ddianc ar y ffordd. Rai dyddiau'n ddiweddarach daliwyd ef gan ŵr o'r enw John Jones, Ynysfor. Aed ag ef i Ddolgellau i'r carchar. Cynhaliwyd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Sesiwn Fawr yn [[y Bala]], a chafwyd ef yn euog. Crogwyd ef yn gyhoeddus yn Nolgellau ar 17 Ebrill, 1813. Gellir gweld bedd Mary Jones ym mynwent eglwys [[Llanfrothen]].
 
{{DEFAULTSORT:Edwards (Yr Hwntw Mawr), Thomas}}
[[Categori:Llofruddiaeth]]
[[Categori:Marwolaethau 1813]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Llofruddiaeth]]
[[Categori:Troseddwyr Cymreig]]