Maen hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mewn nifer o ieithoedd defnyddir y term ''Menhir'', term a fabwysiadwyd i'r [[Ffrangeg]] o'r [[Llydaweg]], er mai'r enw Llydaweg modern ar faen hir yw ''peulvan''.
 
Ceir y casgliad mwyaf o feini hirion yn [[Karnag]], [[Llydaw]], lle maent wedi eu trefnu yn rhesi. Ceir casgliad ail-fwyaf Ewrop o feini hirion yn [[La Cham des Bondons]] yn ''département'' [[Lozère]] yn ne [[Ffrainc]], lle nad ydynt wedi eu trefnu yn ôl patrwm arbennig. Gallant hefyd fod mewn grwpiau bychain, neu yn unigol, a gall maint y maen amrywio'n sylweddol. Y maen hir mwyaf yw'r un yn [[Locmariaquer]], Llydaw, sydd yn awr wedi torri'n bedwar darn, ond a fyddai wedi bod bron yn 20 medr o uchder pan yn gyfan. Maen hir Kerloas, 9.5 medr o uchder, yw'r maen hir talaf sy'n dal yn sefyll yn Llydaw. Maent hefyd yn gyffredin yn [[Iwerddon]] a rhannau o wledydd [[Llychlyn]]. Weithiau, ceir meini girionhirion wedi eu trefnu i ffurfio [[cylch cerrig]].
 
Ceir nifer fawr o feini hirion yng Nghymru. Un enghraifft yw'r ddau faen hir sy'n rhoi ei enw i [[Bwlch y Ddeufaen]] yn y [[Carneddau]]. Yn [[Llanfechell]] ar [[Ynys Môn]], ceir tri maen wedi eu trefnu yn driongl.