Dafydd (Michelangelo): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Mae'r cerflun, sy'n mesur 540 cm, yn portreadu Dafydd fel dyn ifanc athletaidd ond ymlaciedig o gymesuredd berffaith, yn gwbl noeth yn ôl yr arfer clasurol wrth bortreadu arwyr. Yr oedd yn arfer gan artistiaid ddangos Dafydd yn dal pen y cawr Goliath, ond dewisodd Michelangelo ei bortreadu fel ffigwr delfrydol sy'n ymgnawdoli ieuenctid gwrywaidd a chyfianwder. Cerfiodd yr artist ''Ddafydd'' ar ôl cyfnod yn [[Rhufain]] lle astudiodd gerfluniau o'r cyfnod [[Helenistaidd]] ac mae dylanwad yr arddull Groegaidd ar y gwaith yn amlwg. Ac eto ni ellir ei gamgymryd am gerflun Clasurol; mae ysbryd y Dadeni yn ei lenwi ac mae'n cychwyn pennod newydd yn hanes [[cerfluniaeth]] yn hytrach nag edrych yn ôl fel dynwarediad marw.<ref>H. W. Janson, ''Histoire de l'Art'' (Paris, 1964), tud. 539.</ref>
Cafodd Michelangelo ei gomisiynu i'w gerfio yn 1501, pan oedd yn 26 oed. Y bwriad oedd ei osod yn uchel ar un o archau [[Eglwys Gadeiriol Fflorens|eglwys gadeiriol]] [[Fflorens]] (''Il Duomo''), ond penderfynodd Tadau'r Ddinas ei osod o flaen y ''[[Palazzo Vecchio]]'' fel arwyddlun o ysbryd
==Cyfeiriadau==
|