Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Khushal Khan Khattak Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd '''Khushal Khan Khattak…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:41, 9 Mai 2009

Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (1613 - 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddai yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17eg ganrif; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin, Pacistan.

Delwedd:Khushal-Khan-Khattak.jpg
Khushal Khan Khattak

Cyfansoddai Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]

Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]

Cyfeiriadau

  1. James W. Spain, The Way of the Pathans, pennod 'The Warrior Bard'.
  2. The Way of the Pathans.