Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Khushal Khan Khattak Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd '''Khushal Khan Khattak…
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Khushal-Khan-Khattak.jpg|250px|bawd|Khushal Khan Khattak]]
Bardd yn yr iaith [[Pashto]], rhyfelwr [[Pashtun]] a phennaeth llwyth y [[Khattack]] oedd '''Khushal Khan Khattak''' ([[1613]] - [[1689]]) ([[Pashto]]: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddaigyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron [[Mughal]] yn yr 17eg ganrif; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun ([[Pathan]]) a'r [[Affganiaid]] i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr [[Hindu Kush]] yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn [[Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin|Dalaith Ffin y Gogledd-Orllewin]], [[Pacistan]].
 
CyfansoddaiCyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr [[Affridiaid]], un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.<ref>James W. Spain, ''The Way of the Pathans'', pennod 'The Warrior Bard'.</ref>
 
Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o [[Attock]].<ref>''The Way of the Pathans''.</ref>