Pashtun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Merch Pashtun, [[Kandahar, 19eg ganrif.]] Grŵp ethnig yn Affganistan a Pacistan yw'r '''Pashtun''' (hefyd '''Pathan'''). D…
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Kandahar Lady of ranks.jpg|250px300px|bawd|Merch Pashtun, [[Kandahar]], 19eg ganrif.]]
 
Grŵp ethnig yn [[Affganistan]] a [[Pacistan]] yw'r '''Pashtun''' (hefyd '''Pathan'''). Dyma'r grŵp ethnig mwyaf yn Affganistan, sy'n byw yn y de a'r dwyrain yn bennaf. Ym Mhacistan mae'r mwyafrif llethol yn byw yn ardal [[Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin]] a'r [[Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal]] (FATA) gydag eraill i'w cael yn [[Balochistan]] hefyd; gorwedd yr ardaloedd hyn yng ngorllewin Pacistan am y ffin ag Affganistan. [[Pashto]] yw iaith y mwyafrif, yn famiaith i tua 80% o'r Pashtwniaid; mae eu hieithoedd eraill yn cynnwys [[Perseg]] ac, i raddau llai, [[Wrdw]] (Pacistan). Mae nifer o'r Pashtun yn cyfeirio at eu tiriogaeth fel [[Pashtunistan]] ('Gwlad y Pashtun') ac mae rhai o blaid creu gwlad annibynnol i uno Pashtwniaid ar ddwy ochr y ffin bresennol rhwng Pacistan ac Affganistan, sy'n greadigaeth gymharol ddiweddar. Mae'r mwyafrif llethol yn [[Islam|Fwslemiaid]].