Rhyfel Cartref Rwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Lleihawyd o 8 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
[[Rhyfel cartref]] rhwng sawl carfan yng nghyn [[Ymerodraeth Rwsia|Rwsia Imperialaidd]] oedd '''Rhyfel Cartref Rwsia''' (1917-1922).
 
Dechreuodd yn dilyn [[Chwyldro Rwsia|Chwyldro Hydref]] pan gipiodd y [[Plaid Bolsiefic|Bolsiefigiaid]] [[comiwnyddiaeth|comiwnyddol]] bŵer yn [[St Petersburg]] ar y7 7fed o Dachwedd,Tachwedd 1917 (Calendr Gregori) gan ddod â'r [[Llywodraeth Dros Dro Rwsia|Llywodraeth Dros Dro]] i ben. Rhyfel rhwng y Fyddin Goch - y Bolsiefigiaid a'i gynghreiriaid, a'r Fyddin Gwyn - cymysgedd o gefnogwyr y llywodraeth dros dro, y cyn [[Tsar]] ac adweithwyr, oedd yn bennaf. Roedd nifer o luoedd gwahanol genhedloedd a oedd yn ymladd dros annibyniaeth, carfanau gwerinol (a enwir y Byddinoedd Gwyrddion gan rai) a Byddin Ddu [[anarchiaeth|anarchwyr]] [[Wcrain]] yn brwydro yn ogystal. Gan fod Rwsia hyd at 1918 ([[Cytundeb Brest-Litovsk]]) yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd lluoedd y Pwerau Canolig (gan gynnwys yr [[Almaen]], [[Awstria-Hwngari]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]]) hefyd yn rhan o'r rhyfel ar y dechrau, ac yn hwyrach daeth amhariad y Gynghreiriaid â byddinoedd y [[Deyrnas Unedig]], [[Ffrainc]], yr [[Unol Daleithiau]] a [[Siapan]] i'r ffrae.
 
Y canlyniad oedd buddugoliaeth gan y Blaid Bolsiefic a dechreuad yr [[Undeb Sofietaidd]] yn ogystal a genedigaeth sawl wlad newydd annibynnol yng [[Gorllewin Ewrop|Ngorllewin Ewrop]].