Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Moel-y-don"

Ychwanegwyd 22 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: Ymladdwyd '''Brwydr Moel-y-don''' ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, er mwyn amddiffyn…)
 
B
Ymladdwyd '''Brwydr Moel-y-don''' ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], er mwyn amddiffyn [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Afon[[Traeth Lafan|Draeth MenaiLafan]] rhwng [[Llan-faes]], [[Môn]] a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger [[Moel-y-don]] ei hun.
 
Yn ystod yr haf, 1282, goresgynwyd Môn gan rhan o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o [[Rhuthun|Ruthun]]. Bwriad Edward oedd dwyn cynhaeaf yr ynys ac felly tynhau'r cortyn o gwmpas Gwynedd yn ei ymdrech i orchfygu'r Cymry. Aeth y Saeson ati i godi pont o bren dros Afon Menai yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Mae lleoliad y bont honno yn ansicr. Ni cheir cyfeiriadau at y frwydr fel 'Brwydr Moel-y-don' tan yr 16eg ganrif. Mae Moel-y-don yn safle hen fferi a leolir ni nepell o [[Llanidan|Lanidan]]. Ond roedd pencadlys y Saeson yn ardal Llan-faes, tua 7 milltir i'r dwyrain, ac roedd y gwaith yn golygu symud deunydd trwm a gweithwyr. Buasai'r Saeson yn wynebu anawsterau mawr i ymladd eu ffordd i ar ôl glanio hefyd. Cynigir gan haneswyr diweddar fel [[J. Beverley Smith]] mai rhwng Llan-faes ac ardal Bangor y codwyd y bont mewn gwirionedd gyda'r bwriad o ymosod ar lys Llywelyn yn [[Abergwyngregyn]], dros [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]].