Pelydr-X: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ieithoedd
Cynhyrchu
Llinell 8:
Ar wahân i'r defnydd meddygol, câi ei ddefnyddio hefyd mewn meysydd awyrennau i archwilio bagiau am resymau diogelwch. Mae cynnydd wedi bod yn ddefnydd y peiriannau yma ers yr [[Ymosodiadau 11 Medi 2001]]. Defnydd arall yw archwilio mân graciau mewn llefydd megis dau ddarn o fetel wedi'i weldio at ei gilydd. Maent hefyd yn cael ei defnyddio i weld o dan haenau o baent mewn lluniau olew, gan fod rhai mathau o baent (gwyn er enghraifft) yn cynnwys llawer o [[plwm|blwm]] sydd hefyd yn atal y pelydrau treiddio.
 
==Cynhyrchu pelydrau-x==
Cynhyrchir pelydrau-x mewn tiwb pelydrau-x. Mae peiriannau pelydrau-x yn cynnwys tiwb o'r fath yma sy'n cynnwys gwactod. Dyma ddiagram o'r tiwb pelydr-x fwyaf diweddar o'r enw'r '''tiwb Coolidge'''. Datblygwyd y tiwb yma o'r hen fath sef y '''tiwb crookes''' gan [[William Coolidge]] yn 1913.
 
[[image:Roentgen-Roehre.svg|450px|canol]]
 
*Mae gan y ffilament '''K''' botensial negyddol, mae hyn felly yn gatod.
*Cynhyrchir potensial positif ar y twngsten targed '''A'''. Mae '''A''' yn anod.
*Pan gynhyrchir cerrynt mae'r ffilament yn '''K''' yn twymo. Mae electronau yn cael ei allyrru o’r arwyneb - maent yn cael yr egni yma o'r gwres, gelwir hyn yn [[allyriant thermionig]].
*Mae'r electronau a allyrrir yn cael ei gwrthyrru gan y catod '''K''' oherwydd ei wefr negyddol ac yn cael ei denu tuag at yr anod '''A''' sy'n bositif.
*Mae'r [[gwahaniaeth potensial]] rhwng yr anod a chatod rhwng 25kV a 400kV. Mae'r foltedd uchel yma yn cyflymu'r electronau ac yn rhoi egni cinetig mawr iddynt.
*Mae'r electronau yn taro'r targed twngsten yn gyflym iawn ac yn cael ei gorfodi i stopio. Mae rhan fach iawn o'r egni cinetig yma yn cael ei drosglwyddo i belydrau-x ('''X''').
*Dim ond 0.5% o'r egni cinetig yn cael ei throsglwyddo i'r pelydrau-x ('''X''') Mae'r gweddill o'r egni yn twymo'r twngsten targed '''A'''. Dyma pam mae'r twngsten yma yn cylchdroi ac mae yna dŵr '''C''' yn oeri'r twngsten.
 
[[Categori:gwyddoniaeth]]