Brwydr Moel-y-don: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Rhuddlan/Rhuthun!!! |
||
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Brwydr Moel-y-don''' ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], er mwyn amddiffyn [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]] rhwng [[Llan-faes]], [[Môn]] a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger [[Moel-y-don]] ei hun.
Yn ystod yr haf, 1282, goresgynwyd Môn gan rhan o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o [[
Ar Ddyddgwyl Sant Lennard (6 Tachwedd), gwelwyd mintai cryf o marchogion a milwyr traed Seisnig ar y bont. Cofnodir yr hyn a ddilynodd gan sawl croniclydd Seisnig. Ymddengys fod y Saeson ar Fôn wedi penderfynu ymosod heb orchymyn gan eu brenin a dywedir hefyd nad oedd y bont yn gwbl barod. Roedd yno saith marchog a thri chant o filwyr traed. Ar ôl iddynt lanio (ar Draeth Lafan, mae'n ymddangos) daeth y llanw i mewn yn gyflym gan adael dŵr rhyngddynt a'r bont. Yn sydyn, ymosododd y Cymry "allan o'r mynyddoedd uchel". Cymaint oedd braw a dychryn y Saeson fel y ffoesant yn ôl am y bont. Boddwyd pob un ohonynt, yn llwythog o arfwisg trwm, yn ceisio dianc o afael gwŷr Llywelyn.
|