Ska: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: tr:Ska
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu cyd-destun Cymraeg
Llinell 5:
'''1. Jamaica; 1960au''' - Cerddoriaeth debyg i'r hyn a adnabyddir heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw fel [[Prince Buster]], [[Skatalites]] a''r [[Maytals]].
 
'''2. Lloegr; 1980au''' - Caiff y cyfnod hwn hefyd ei adnabod fel 2 Tone, ar ôl y cwmni recordiau (2 Tone) a oedd yn flaenllaw gyda'r bandiau hyn. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Ymysg y prif artistiaid roedd [[The Specials]], [[The Selecter]], [[Madness (band)|Madness]] a [[Bad Manners]]. Roedd y bandiau'n hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan Y Specials yn nodi cyfnod [[2 Tone]] a dechrau cyfnod o derfysg yn [[Lloegr]]. Yn yr iaith Gymraeg, dilynwyd yr un arddull gan grŵp [[Y Ficar]] o'r [[Y Felinheli|Felinheli]].
 
'''3. [[California]]; 1995+''' - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (''distortion'') yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand [[No Doubt]] a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd [[Reel Big Fish]], [[Less Than Jake]] a'r [[Mighty Mighty Bosstones]].