Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 252 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
 
Ar [[23 Gorffennaf]], [[1745]], glaniodd [[Charles Edward Stuart]] a saith cydymaith yn [[Eriskay]] yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn [[Glenfinnan]], a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas [[Caeredin]]. Ar [[21 Medi]] [[1745]], gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym [[Brwydr Prestonpans|Mrwydr Prestonpans]], ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a [[Derby]]. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan [[William Augustus, Dug Cumberland]] ar [[16 Ebrill]] [[1746]] ym [[Brwydr Culloden|Mrwydr Culloden]]. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.
 
Yn ystod ail hanner y [[18fed ganrif]] a hanner cyntaf y [[19eg ganrif]], diboblogwyd [[Ucheldiroedd yr Alban]] i raddau helaeth gan broses [[Clirio'r Ucheldiroedd]]. Gorfodwyd tenantiaid i ymadael a'u tyddynod, er mwyn gwnwud lle i wartheg a defaid.
 
==Gweler hefyd==
37,236

golygiad