Afaon fab Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyfeirir at Afaon yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' fel un o farchogion llys [[Arthur]] a'r "gŵr ifanc doethaf a mwyaf dysgedig yn y deyrnas". Ceir cyfeiriad moel ato mewn cerdd a gedwir yn [[Llyfr Taliesin]] yn ogystal. Priodolir iddo gyfresi o [[englyn]]ion doethineb dan yr enw 'Cyssul Afaon/Addaon' ("Cyngor Afaon") mewn sawl llawysgrif.
 
Cyfeirir at Afaon mewn tri o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]]. Roedd yn un o 'Dri Tharw Unben' yr ynys, gydag [[Elinwy fab CadegyrCadegr]] a [[Cynhafal fab Argad|Chynhafal fab Argad]] (Triawd 7). Fe'i enwir yn un o 'Dri Aerfeddawg' (arweinwyr brwydr) yr ynys gyda [[Selyf fab Cynan Garwyn]] ac [[Urien Rheged|Urien fab Cynfarch]] (Triawd 25). Rhestrir ei lofruddio gan arwr anhysbys o'r enw Llawgad Trwm Bargawd Eidyn fel un o 'Dri Anfad Gyflafan Ynys Brydain'.
 
==Cyfeiriadau Ffynhonnell ==
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991)
 
Llinell 12:
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Trioedd Ynys Prydain]]