Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gramadeg [[cerdd fafoddafod]] yw '''''Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain''''' a luniwyd gan [[Iolo Morganwg]] ar ddiwedd y 18fed ganrif ac a gyhoeddwyd yn [[Abertawe]] yn 1829. Mae'r gyfrol, sy'n honni adfer [[mesurau caeth]] a [[canu rhydd|rhydd]] traddodiadol, yn cynnwys nifer o ffugiadau gan Iolo, yn fesurau gwneud a cherddi, a briodolir i hen feirdd [[Morgannwg]]. Cafodd yr enw o lawysgrifau dilys sy'n ei ddefnyddio fel enw ar [[gramadegau'r penceirddiaid|ramadegau'r penceirddiaid]]. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn y 19eg ganrif a chafwyd sawl argraffiad ohono.
 
Ymddengys mai prif symbyliad Iolo wrth lunio'r ffugwaith oedd ymwrthod â'r [[pedwar mesur ar hugain]], y gyfundrefn mesurau caeth a sefydlwyd gan [[Dafydd ab Edmwnd]] yn [[Eisteddfod Caerfyrddin 1451]].<ref>G. J. Williams, ''Iolo Morganwg'' (Caerdydd, 1956), tud. 374.</ref> Fel y noda [[Ifor Williams]] yn ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'',