Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
Ond er fod cyfran helaeth o'r llyfr yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun, mae beirniad a haneswyr [[llenyddiaeth Gymraeg]] ar y cyfan yn barod i gydnabod doniau digamsyniol Iolo fel ysgolhaig gorau ei gyfnod ac fel gŵr y mae ei wybodaeth o'r [[llawysgrifau Cymraeg]] i'w gweld yn amlwg yn y gyfrol hon. Dyna un rheswm pam y llwyddodd i dwyllo cynifer o bobl. Cyfaddefir hefyd, hyd yn oed gan ei feirniaid llyfnaf fel [[G. J. Williams]], fod dawn farddonol Iolo yn disgleirio yn y darnau o gerddi ffug a geir yn y llyfr hwn, cerddi sy'n adlewyrchu [[rhamantiaeth]] y cyfnod a lle ceir "afiaith a gorhoen y bardd sy'n canu i serch, i natur, i fwynder a hyfrydwch natur."<ref>''Iolo Morganwg'', tud. 377.</ref> Dyma un enghraifft, "ar y Gyhydedd drosgl, deufan Hyppynt", a dadgogir ar "Dafydd o'r Nant":
 
:Fe ddaeth y dorf adar
:I'r coedydd a'u llafar
::Yn gynnar y gwanwyn,
:A minneu'n cydganu
:A'r hyfryd awenllu,
::Mewn gerddlu, mewn gwyrddlwyn.
 
:Hyfryded edrycher
Llinell 14 ⟶ 21:
:Mae Mai yn ei heulwisg
:Yn rhoddi blodeuwisg
::A deilwisg ar dewlwyn.<ref>''Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain'' (argraffiad H. Humphreys, Caernarfon, d.d.), tud. 66.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==