Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gramadeg [[cerdd dafod]] yw '''''Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain''''' a luniwyd gan [[Iolo Morganwg]] ar ddiwedd y 18fed ganrif ac a gyhoeddwyd yn [[Abertawe]] yn 1829. Mae'r gyfrol, sy'n honni adfer [[mesurau caeth]] a [[canu rhydd|rhydd]] traddodiadol, yn cynnwys nifer o ffugiadau gan Iolo, yn fesurau gwneud a cherddi, a briodolir i hen feirdd [[Morgannwg]]. Cafodd yr enw o lawysgrifau dilys sy'n ei ddefnyddio fel enw ar [[gramadegau'r penceirddiaid|ramadegau'r penceirddiaid]]. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn y 19eg ganrif a chafwyd sawl argraffiad ohono.
 
Ffugio
Ymddengys mai prif symbyliad Iolo wrth lunio'r ffugwaith oedd ymwrthod â'r [[pedwar mesur ar hugain]], y gyfundrefn mesurau caeth a sefydlwyd gan [[Dafydd ab Edmwnd]] yn [[Eisteddfod Caerfyrddin 1451]].<ref>G. J. Williams, ''Iolo Morganwg'' (Caerdydd, 1956), tud. 374.</ref> Fel y noda [[Ifor Williams]] yn ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'',
 
Llinell 7 ⟶ 8:
Dadansoddodd Syr [[John Morris-Jones]] ffugwaith Iolo mewn atodiad i'r gyfrol ''Cerdd Dafod''. Mae'n dweud mai "ymosodiad ffyrnig ar draddodiad prydyddion Cymru yw dosbarth Iolo Morganwg". Â ymlaen i esbonio: "Gan mai ei ddadl oedd mai o blaid rhyddid y safai beirdd Morgannwg, fe feddyliodd am ddyfeisio iddynt ddosbarth a fyddai'n ddigon rhydd i gynnwys pob mesur."<ref>John Morris-Jones, ''Cerdd Dafod'' (Rhydychen, 1926), tud. 378.</ref>
 
Gwerth llenyddol
Ond er fod cyfran helaeth o'r llyfr yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun, mae beirniad a haneswyr [[llenyddiaeth Gymraeg]] ar y cyfan yn barod i gydnabod doniau digamsyniol Iolo fel ysgolhaig gorau ei gyfnod ac fel gŵr y mae ei wybodaeth o'r [[llawysgrifau Cymraeg]] i'w gweld yn amlwg yn y gyfrol hon. Dyna un rheswm pam y llwyddodd i dwyllo cynifer o bobl. Cyfaddefir hefyd, hyd yn oed gan ei feirniaid llyfnaf fel [[G. J. Williams]], fod dawn farddonol Iolo yn disgleirio yn y darnau o gerddi ffug a geir yn y llyfr hwn, cerddi sy'n adlewyrchu [[rhamantiaeth]] y cyfnod a lle ceir "afiaith a gorhoen y bardd sy'n canu i serch, i natur, i fwynder a hyfrydwch natur."<ref>''Iolo Morganwg'', tud. 377.</ref> Dyma un enghraifft, "ar y Gyhydedd drosgl, deufan Hyppynt", a dadgogirdadogir ar "Dafydd o'r Nant":
 
:Fe ddaeth y dorf adar