Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
trwsio
Llinell 3:
Fel nofelydd y cofir yn bennaf am '''Islwyn Ffowc Elis''' ([[17 Tachwedd]] [[1924]] - [[22 Ionawr]] [[2004]]). Ond roedd hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog yr efengyl, yn ddarlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith. Derbyniodd ddisgrifiad ohono ef ei hunan fel ‘cyfathrebwr’ mewn cyfweliad teledu ar ‘Rhaglen Nia’. <ref>Llwyd t. 3</ref>
 
==Bywyd a gwaith==
Cafodd ei eni yn [[Wrecsam]] a'i fagu yn [[Glynceiriog|Nglynceiriog]], pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin [[Lloegr]]. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr. <ref>’Y rhaid sydd arnaf’ yn ‘‘Fy Nghymru’’ (1961)</ref> Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd [[Llangollen]] ac wedyn i [[Prifysgol Cymru, Bangor|Goleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol. <ref>Chapman, ''Rhywfaint o Anfarwoldeb''</ref> Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau. <ref>Llwyd tt 33-37</ref> Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol [[Aberystwyth]] a [[Bangor]].
 
Llinell 13 ⟶ 14:
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr ugeinfed ganrif wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, ''Cysgod y Cryman'', llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg. <ref name="Stephens">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)</ref> <ref name="BBC">[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/enwogion/llen/pages/islwyn_ffowc_elis.shtml 'Islwyn Ffowc Elis' - gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)]</ref> Mae’r ffaith mai ''Cysgod y Cryman'' yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. ''Cysgod y Cryman'' enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn [[1999]] ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. <ref>Llwyd t. 123</ref> Dewiswyd ''Cysgod y Cryman'' hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn [[2007]] mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.
 
Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig ''Y Gromlech yn yr Haidd'' ac ''Eira Mawr'' a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng [[1971]] a [[1975]]. <ref>Llwyd t. 90</ref> <ref name="Stephens"></ref> <ref name="BBC"></ref> Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau [[radio]] a [[teledu|theledu]], i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd ''Rhai yn Fugeiliaid'' (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu. <ref>Llwyd tt 93, 105</ref> Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis ''Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar'' (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis ''Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd'' (1956).
 
Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]]. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym [[1962]] a [[1964]]. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]]. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin. <ref>Llwyd tt 72-85</ref>