Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Dadansoddodd Syr [[John Morris-Jones]] ffugwaith Iolo mewn atodiad i'r gyfrol ''Cerdd Dafod''. Mae'n dweud mai "ymosodiad ffyrnig ar draddodiad prydyddion Cymru yw dosbarth Iolo Morganwg". Â ymlaen i esbonio: "Gan mai ei ddadl oedd mai o blaid rhyddid y safai beirdd Morgannwg, fe feddyliodd am ddyfeisio iddynt ddosbarth a fyddai'n ddigon rhydd i gynnwys pob mesur."<ref>John Morris-Jones, ''Cerdd Dafod'' (Rhydychen, 1926), tud. 378.</ref>
 
Gwerth llenyddol
Ond er fod cyfran helaeth o'r llyfr yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun, mae beirniad a haneswyr [[llenyddiaeth Gymraeg]] ar y cyfan yn barod i gydnabod doniau digamsyniol Iolo fel ysgolhaig gorau ei gyfnod ac fel gŵr y mae ei wybodaeth o'r [[llawysgrifau Cymraeg]] i'w gweld yn amlwg yn y gyfrol hon. Dyna un rheswm pam y llwyddodd i dwyllo cynifer o bobl. Cyfaddefir hefyd, hyd yn oed gan ei feirniaid llyfnaf fel [[G. J. Williams]], fod dawn farddonol Iolo yn disgleirio yn y darnau o gerddi ffug a geir yn y llyfr hwn, cerddi sy'n adlewyrchu [[rhamantiaeth]] y cyfnod a lle ceir "afiaith a gorhoen y bardd sy'n canu i serch, i natur, i fwynder a hyfrydwch natur."<ref>''Iolo Morganwg'', tud. 377.</ref> Dyma un enghraifft, "ar y Gyhydedd drosgl, deufan Hyppynt", a dadogir ar "Dafydd o'r Nant":