Rhupunt hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:55, 14 Mai 2009

Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhypunt hir, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo bedair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 16 sillaf. Y patrwm odlau yma ydy a, b, a, b.

Mae diwedd chwarter cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail chwarter a'r trydydd chwarter; ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r rhan olaf (y pedwerydd chwarter).

Dyma bennill o waith Tudur Aled:

Pybyr nerthwr pob dierthwr,
Pab, aberthwr, pawb a borthed;
Pob llawenydd hyd Faelienydd,
Pob awenydd, pawb a aned.

Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl, fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog.

O edrych ar y llinellau fel cyfanwaith gwelir eu bont hefyd yn ffurfio math o gynghanedd sain.


Gweler hefyd

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.