Fife: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

sir yn yr Alban
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|240px|Lleoliad Fifle Awdurdod unedol yn yr Alban yw '''Fife''' (Gaeleg: ''Fìobh''). Saif ar ochr ogleddol Moryd Forth. Yn wreiddiol,…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:31, 15 Mai 2009

Awdurdod unedol yn yr Alban yw Fife (Gaeleg: Fìobh). Saif ar ochr ogleddol Moryd Forth.

Lleoliad Fifle

Yn wreiddiol, roedd Fife yn un o deyrnasoedd y Pictiaid dan yr enw Fib, ac mae'n parhau i gael ei galw yn "Deyrnas Fife" yn yr Alban. Roedd yn un o hen siroedd yr Alban hyd 1975, a daeth yn awdurdod unedol yn 1996. Mae'r boblogaeth tua 360,000, gan osod Fife yn drydydd o ran poblogaeth ymysg awdurdodau unedol yr Alban. Y prif drefi yw Dunfermline, Kirkcaldy a Glenrothes. Saif tref hanesyddol St Andrews ar yr arfordir dwyreiniol.