Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ynyrhesolaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Ynyrhesolaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Math o [[roced]] neu long ofod ydy gwennol y gofod sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl, fel y wennol ei hun; bathwyd y term Cymraeg gan [[Owain Owain]].<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref> Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys [[Prydain]], y [[European Sapce Agency]], [[Tseina]] a [[Siapan]] wedi cynllunio gwennol ofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r [[UDA]] a [[Rwsia]].

==Gwennol ofod - America==

Penderfynodd y sefydliad Americanaidd [[NASA]] ddylunio'r wennol Ofodofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, [[Yuri Gagarin]], gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriadwyd y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.
 
Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (''space capsules'') yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob perwyl. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Aries yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.
 
==Gwennol ofod - Rwsia==
 
Wnaeth Rwsia ddechrau cynnllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf yr oedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan [[Boris Yeltsin]] a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen
 
 
==Cyfeiriadau==