Elis Gruffydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
ehangu |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Elis Gruffydd''' (c.[[1490]]-c.[[1552]]), a lysenwyd '''"Y Milwr o Galais"''', yn groniclydd Cymraeg, copïydd a chyfieithydd, a aned yn [[Llanasa]], [[Sir Fflint]]. Mae Elis Gruffydd yn adnabyddus yn bennaf fel lluniawr y gronicl anferth ''Cronicl Chwech Oes y Byd'', sy'n cynnwys y testun hynaf ar glawr o ''[[Hanes Taliesin]]'', sy'n adrodd hynt a helynt y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]].<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru).</ref> Mae'r Gronicl yn un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, gan UNESCO.
==Bywgraffiad==
Prin ac ansicr yw'r dystiolaeth am ei fywyd cynnar. Cafodd ei fagu yn Sir Fflint ac yn nes ymlaen llwyddodd i ennill lle yng ngwasanaeth teulu Wingfield yn [[Llundain]]. Aeth drosodd i [[Ffrainc]] gyda Syr Robert Wingfield a bu'n dyst i [[Maes y Brethyn Euraidd|Faes y Brethyn Euraidd]], ger [[Calais]], yn [[1520]]. Treuliodd y cyfnod o [[1524]] hyd [[1529]] fel ceidwad plas y teulu Wingfield yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwnnw copïodd nifer o hen [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]], yn cynnwys [[buchedd]]au'r saint a ''[[Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain]]''. Gwyddys iddo ddychwelyd i Galais fel milwr yn y garsiwn Seisnig yno. Yno, trodd o Babyddiaeth ac at Brotestaniaeth pybyr.
Ymladdodd dros Loegr yn yr [[Iseldiroedd]], [[Gwlad Belg]] a [[Sbaen]] cyn symud i Calais, a oedd yn 1530 dan feddiant Coron Lloegr. Bu ganddo ddigon o hamdden i dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn copïo a chyfieithu nifer o lawysgrifau (o lyfrgell teulu Wingfield yn ôl pob tebyg). Yno hefyd, mae'n debyg, yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o destun ei ''Gronicl o Chwech Oes y Byd''. Ni wyddys pryd yn union y bu farw, ond [[1552]] yw'r dyddiad olaf yn ei gronicl, a thybir iddo farw yn fuan wedyn, yng Nghalais. Serch hynny, mae yna bosibilrwydd ei fod dal yno pan ailgymerwyd y ddinas gan y Ffrancod ym 1558.<ref name="Thomas Jones 1949">Thomas Jones, 'Y Milwr o Galais', yn ''Mân Us. Sgyrsiau ac Ysgrifau'' (Llyfrau'r Castell, Caerdydd, 1949).</ref> ==Gwaith llenyddol==
Dim ond pytiau o waith Elis Gruffydd a gyhoeddwyd hyd yn hyn. Cyhoeddwyd rhannau o'i ''Gronicl'' o bryd i'w gilydd, yn cynnwys ''Ystoria Taliesin'' (''[[Hanes Taliesin]]''), disgrifiadau o ddigwyddiadau hanesyddol yn ei oes, ac ambell chwedl fel 'Chwedl [[Huail fab Caw|Huaw ap Caw]] ac [[Arthur]]', 'Chwedl [[Myrddin]]' a 'Gwraig [[Maelgwn Gwynedd|Maelgwn]] a'r Fodrwy', a 'Hanes Llywelyn ap Iorwerth a Chynwrig Goch o Drefriw'. Cyhoeddwyd yn ogystal ei gyfieithiad o'r llyfr meddygol cyfoes ''[[Castell yr Iechyd]]''. Mae iaith ac arddull yr awdur yn unigryw a'i waith yn ddarllenadwy iawn. Barn [[J. Gwenogvryn Evans]] amdano oedd ei fod "y rhyddiaith fwyaf darllenadwy yn y Gymraeg ar ôl y Mabinogion."<ref name="Thomas Jones 1949"/>
==Cronicl Elis Gruffydd==
Sgwennwyd Cronicl o Chwech Oes y Byd rhwng 1550 a 1552, pan oedd yng ngwarchodlu byddin Lloegr, wedi'i leoli yn [[Calais]]. Mae'r Gronicl hon yn un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at 'Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol', gan UNESCO.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44423751 Gwefan Cymru Fyw; BBC; adalwyd 12 Mehefin 2018.</ref> Mae'r cronicl yn disgrifio hanes y byd o'r dechrau hyd at ddyddiau'r awdur, ac mae'n cynnwys ffeithiau hanesyddol, chwedlau traddodiadol o Gymru, a hanesion o gyfnod y [[Oes y Tuduriaid|Tuduriaid]]. Dywedodd [[Pedr ap Llwyd]], Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod y cronicl yn "gampwaith" ond iddo fynd "braidd yn anghofiedig" erbyn hyn (2017). Dywedodd: "Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw'r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i'w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma'r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith. Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i'r Deyrnas Gyfunol - er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau'r Deyrnas Gyfunol ar y pryd."
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys barn gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain ar faterion megis perthynas Harri VIII ac [[Anne Boleyn]], a gwybodaeth am gwymp [[Thomas Cromwell]].
== Llyfryddiaeth ==
|