Gwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Tiriogaeth]] [[daearyddiaeth|ddaearyddol]] ydy '''gwlad'''. Caiff ei diffinio'n aml fel ''[[cenedl]]'' (bro ddiwylliannol) a ''[[gwladwriaeth]]'' (ardal wleidyddol). Yn nhermau cydnabyddiaeth swyddogol ar lefel ryngwladol, yn arbennig ar gyfer aelodaeth lawn o'r [[Cenhedloedd Unedig]], rhoddir y flaenoriaeth i'r ystyr wleidyddol (er enghraifft, ni chaiff [[Cymru]], [[Lloegr]] na'r [[Alban]] eu hystyried fel gwledydd llawn yn yr ystyr gwleidyddol fel rheol: maent yn genhedloedd a gwledydd o fewn gwladwriaeth sofran [[y Deyrnas Unedig]], er nad yw'r Deyrnas Unedig ei hun yn genedl a bod rhai pobl yn dadlau ei bod yn wladwriaeth yn unig yn hytrach na gwlad go iawn).
 
Ond nid yr ystyr wleidyddol yn unig sy'n cyfrif ym marn nifer o bobl, yn arbennig o genhedloedd llai y byd. Mae diffinio gwlad felly yn bwnc dadleuol. Mae nifer o Saeson yn dadlau nad yw Cymru yn wlad, a nifer o Gymry yn dadlau ei bod hi. Yn yr un modd mae mwyafrif helaeth y [[Tibet]]iaid yn meddwl fod Tibet yn wlad. Roedd hi'n wlad annibynnol, sofran tan i [[Tsieina]] ei goresgyn yn y [[1950au]] ac felly, ym marn y Tibetiaid a'u cefnogwyr, mae hi'n dal i fod yn wlad heddiw, er bod llywodraeth [[Gweriniaeth Pobl ChinaTsieina]] yn ei hystyried yn dalaith ymreolaethol o fewn Tsieina.
 
==Gweler hefyd==