Ulan Bator: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 20fed ganrif → 20g (2) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Prifddinas a dinas fwyaf [[Mongolia]] yw '''Ulan Bator''', neu '''Ulaanbaatar''' ([[Mongoleg]]: Улаанбаатар). Mae'r ddinas yn awdurdod llywodraeth leol annibynnol, heb fod yn rhan o dalaith, ac mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 1 miliwn (2008).
 
Wedi'i lleoli yng ngogledd canolbarth y wlad, mae'r ddinas yn gorwedd tua 1310 m i fyny mewn dyffryn agored ar lan [[Afon Tuul]]. Hon yw canolfan ddiwylliannol, diwydiannol ac ariannol y wlad. Mae'n ganolfan cludiant hefyd, a gysylltir gan ffyrdd â phob dinas fawr ym Mongolia a gan reilffordd â'r [[Rheilffordd Traws-Siberia]] a rhwydwaith rheilffyrdd [[Gweriniaeth Pobl ChinaTsieina]].
 
Sefydlwyd y ddinas ym [[1639]] fel canolfan mynachlogydd [[Bwdhaeth|Bwdhaidd]], ond ni thyfodd lawer tan yr 20g pan ddaeth yn ganolfan gweithgynhyrchu fawr gyda rhodfeydd eang a sgwariau agored ac adeiladau sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth newydd-glasurol y gwledydd sosialaidd yn ail hanner yr 20g.