Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama"

Ychwanegwyd 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
No edit summary
| dateformat = dmy
}}
'''Jetsun Jamphel Ngawang Lobsang Yeshe Tenzin Gyatso''' (enw genedigol '''Llhamo Döndrub'''; [[Tibeteg]]: ལྷ་མོ་དོན་འགྲུབ་ ''Lha-mo Don-'grub'') (ganed [[6 Gorffennaf]] [[1935]] yn [[Qinghai]], [[Tibet]]), yw'r 14eg '''[[Dalai Lama]]''', gan olynu [[Thubten Gyatso]]. Mae'r Dalai Lama yn arweinydd ysbrydol uchel ei barch gan y [[Tibetiaid]] sydd â dylanwad mawr dros yr [[Gelug|Ysgol Gelug]], cangen o [[Bwdhiaeth Tibet]]. Mae'n bennaeth [[Gweinyddiaeth Ganolog Tibet|llywodraeth alltud Tibet]] yn [[Dharamsala]], [[India]]. Enillodd [[Gwobr Heddwch Nobel|Wobr Heddwch Nobel]] yn 1989. Ef yw'r mynach [[Bwdhaeth|Bwdhaidd]] mwyaf adnabyddus yn y byd. Fodd bynnag, mae llywodraeth [[Gweriniaeth Pobl ChinaTsieina]], sy'n llywodraethu Tibet, yn gwrthod ei hawl i gynrychioli pobl y wlad honno.
 
Ganed Tenzin Gyatso y pumed o 16 o blant mewn teulu o ffermwyr ym mhentref Taktser, yn nhalaith Qinghai, lle siaradai y dafodiaith Tibeteg [[Amdo]] fel ei iaith gyntaf. Cafodd ei gyhoeddi yn ''[[tulku]]'' (ailenedigaeth) y [[Thubten Gyatso, 13eg Dalai Lama|13eg Dalai Lama]] dwy flynedd ar ôl ei eni yn 1935. Ar [[17 Tachwedd]] [[1950]], yn bymtheg oed, cafodd ei orseddu fel Dalai Lama Tibet, gan ddod felly yn arweinydd gwleidyddol a chrefyddol pwysicaf y wlad honno. Digwyddodd hynny cwta un mis yn unig ar ôl i [[PLA|Byddin Rhyddhad y Bobl]] (y PLA) ddechrau goresgyn Tibet.