Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwasg argraffu"

Lleihawyd o 68 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
s, dol
B
B (s, dol)
Tagiau: 2017 source edit
[[Delwedd:Printer in 1568-ce.png|bawd|Ysgythriad o wasg argraffu gan Jost Amman (1568). Mae'r person ar y chwith yn tynnu papur sydd newydd ei argraffu a'r un ar y dde yn rhoi inc ar y blociau o deip.]]
Dyfais sy'n gwasgu [[inc]] ar bapur neu wyneb rall i'w [[argraffu]], yw '''gwasg argraffu''' (neu'n syml, '''y wasg'''). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn [[y cyfryngau torfol]], a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr [[Johannes Gutenberg]] a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greeoddgreodd [[gwasg sgriwio|wasg sgriwio]].<ref>Kapr, Albert. ''Johannes Gutenberg: The Man and His Invention'' (Aldershot, Scolar Press, 1996).</ref> Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd. Dros gyfnod o amser trodd y gair 'gwasg' i olygu nid yn unig y peiriant metal a ddefnyddiwyd, ond hefyd y cwmni a'i defnyddiai; daw'r gair o'r weithred o wasgu'r teip yn erbyn arwyneb y papur.
 
Cyn [[14c]] y dull arferol o argraffu gwybodaeth oedd drwy ddefnyddio blociau o bren, neu ysgythru defnydd fel lledr. Pan ddyfeisiodd Gutenberg fold i greu [[teip symudol]], daeth yn broses yn llawer cynt, ac felly'n fasnachol bosobl.
 
==Gweisg yng Nghymru==
Yn 1546 y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef ''[[Yn y Lhyvyrlhyvyr Hwnnhwnn]]'', ond yn Llundain y cafodd ei argraffu. Ni welwyd gwasg yng Nghymru tan
1587. Y ddau brif ysgogiad dros ddod a gwasg i Gymru oedd [[addysg]] a [[crefydd|chrefydd]]. Gallai eglwyswyr Cymreig gyhoeddi eu llyfrau yn Llundain neu [[Rhydychen|Rydychen]] ond yn ddirgel y cyhoeddodd y pabyddion eu llyfrau: yn [[Rhufain]] neu [[Ffrainc]] tan i wasg dirgel gael ei sefydlu yn Ogof Rhiwledyn, [[Llandudno]] lle gwelir heddiw olion y fan lle safodd y wasg argraffu pan y rhoed print ar bapur ac yr argraffwyd ''Y Drych Cristianogawl'' (1587).
 
Pan godwyd y gwaharddiadau yn 1695, un o'r gweisg gyfreithlon, cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru oedd gwasg [[Isaac Carter]] yn [[Trerhedyn|Nhrerhedyn]], [[Llandyfrïog]], yn 1718, a daeth yn ganolfan i gyhoeddi llyfrau yng Nghymru am ddegawdau. Tair mlynedd wedyn, yn 1721, sefydlwyd gwasg yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] gan Nicholas Thomas, a daeth y dref yn bencadlys cyhoeddi Cymraeg am weddill y [[18c18g]].<ref>[[Gwyddoniadur Cymru]]; [[Gwasg y Brifysgol]]; 2008.</ref>
 
==Gweler hefyd==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:Printing presses|y wasg argraffu}}
 
{{eginyn hanes}}
 
[[Categori:Argraffu]]
70,006

golygiad