System etholiadol 'y cyntaf i'r felin': Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Systemau etholiadol|System etholiadol]] a ddefnyddir ar gyfer Tai'r Cyffredin yn [[Etholiadau yn y Deyrnas Unedig|y Deyrnas Unedig]] a [[Etholiadau yng Nghanada|Chanada]]; yn yr Unol Daleithiau ac mewn rhai gwledydd erall yw '''system etholiadol 'y cyntaf i'r felin''''. Yn ôl y system, mae un aelod seneddol yn cael ei ethol ar gyfer pob [[etholaeth]]. Mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros un ymgeisydd yn unig. Etholir yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau heb ystyried a ydy ef neu hi wedi derbyn mwyafrif absoliwt o'r cyfanswm o bleidleisiau. Mae'r system felly yn cyferbynnu â systemau etholiadol eraill, megis y [[System etholiadol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy|Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy]], lle mae ymgeiswyr yn gorfod ennill mwyafrif absoliwt o'r pleidleisiau, neu systemau [[cynrychiolaeth gyfrannol]] lle mae pleidiau yn derbyn seddi yn ôl canran y pleidleisiau mae'n nhw wedi'i hennill. Daw'r enw o'r ddihareb Gymraeg ''Y cyntaf i'r felin gaiff falu''.
 
Defnyddir y system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' heddiw ar gyfer ethol aelodau Tŷ'r Cyffredin Prydain, etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr, etholiadau i [[Cyngres yr Unol Daleithiau|Gyngres yr Unol Daleithiau]], ac ar gyfer etholiadau cenedlaethol mewn llawer o wledydd y [[Cymanwlad|Gymanwlad]], megis [[Bangladesh]], [[Botswana]], [[India]], [[Jamaica]], [[Cenia]], [[Malawi]], [[Maleisia]], [[Nepal]], [[Nigeria]], [[PakistanPacistan]], [[Singapôr]], [[Wganda]], [[Sambia]] a [[Simbabwe]], a rhai y tu hwnt, megis [[Moroco]] a [[De Corea]]. Defnyddid y system hon ar gyfer etholiadau lleol yn yr Alban tan [[2007]], pryd y'i disodlwyd gan system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
 
==Gweler hefyd==