Mahatma Gandhi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2), Yr oedd → Roedd (6) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 32:
Roedd Gandhi hefyd yn ymgyrchu ar ran y Dalit, y bobl oedd islaw y sysyem [[caste]] yn yr India. Arweiniai ymgyrchoedd o'i [[ashram]] yn [[Sevagram]] lle roedd yn byw bywyd syml gyda'i ddilynwyr.
 
Ddechrau'r 1940au dechreuodd ymgyrch newydd gyda'r arwyddait "Quit India!". Carcharwyd ef eto yn [[1942]] yngyd ag arweinwyr eraill y Gyngres. Tra'r oedd yn y carchar bu farw ei wraig Kasturbai. Erbyn diwedd yr [[Ail Ryfel Byd]] roedd yn amlwg fod Prydain yn barod i adael India. Yn groes i ddymuniad Gandhi, oedd yn credu y dylai [[Mwslimiaid]] a [[Hindwiaid]] fyw gyda'i gilydd fel brodyr, cytunwyd i rannu'r wlad yn [[India]] a [[PakistanPacistan]]. Cyhoeddwyd anibyniaeth India yn [[1947]].
 
Yn Ionawr [[1948]] roedd Gandhi ar ei ffordd i gyfarfod gweddi yn [[Delhi]] pan saethwyd ef yn farw gan [[Nathuram Godse]], aelod o grwp Hindŵaidd a gredai fod Gandhi yn rhy ffafriol i'r Mwslimiaid. Llosgwyd ei gorff yn Delhi ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr, a gwasgarwyd ei ludw ar y môr.