Afon Indus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
:''Gweler hefyd [[Indus]] (tudalen gwahaniaethu).''
 
'''Afon Indus''' ([[Wrdw]]: سندھ '''''Sindh'''''; [[Sindhi]]: سنڌو '''''Sindh'''''; [[Sanscrit]] a [[Hindi]]: सिन्धु '''''Sindhu'''''; [[Perseg]]: '''Hindu'''حندو ; [[Pashto]]: '''Abasin''' ّآباسن "''Tad afonydd''"; [[Tibeteg]]: '''Sengge Chu''' "Afon y Llew"; [[Tsieineeg]]: 印度 '''''Yìndù'''''; [[Groeg]]: Ινδους '''''Indus''''') yw'r afon hiraf a phwysicaf ym [[PakistanPacistan|Mhacistan]] ac un o'r mwyaf ar [[is-gyfandir India]], sydd wedi rhoi i [[India]] ei henw.
 
[[Delwedd:Indus near Skardu.jpg|200px|bawd|chwith|Afon Indus ger Skardu yn y [[Karakoram]]]]Mae'n tarddu ar lwyfandir [[Tibet]] ger [[Llyn Mansarovar]], ac yn rhedeg i gyfeiriad y de trwy ardaloedd [[Ladakh]] a [[Kashmir]] yn yr [[Himalaya]] a gogledd a chanolbarth Pacistan, i [[aber]]u ym [[Môr Arabia]] ger dinas [[Karachi]], prif borthladd Pacistan. Hyd yr afon yw 3200 km (2000 milltir). Mae hi'n dal dŵr o ardal o tua 1,165,000 km sgwar (450,000 milltir sgwar). Gyda'r afonydd mawr [[Afon Chenab|Chenab]], [[Afon Ravi|Ravi]], [[Afon Sutlej|Sutlej]], [[Afon Jhelum|Jhelum]], [[Afon Beas|Beas]] a'r [[Afon Sarasvati]] ddarfodedig, mae afon Indus yn ffurfio'r delta ''[[Sapta Sindhu]]'' ("Saith Afon") yn nhalaith [[Sindh]] ym Mhacistan. Mae ugain o afonydd yn llifo iddi.
 
Mae afon Indus yn chwarae rhan hanfodol yn [[economi Pacistan]] - yn arbennig yn nhalaith Bacistanaidd [[Punjab (PakistanPacistan)|Punjab]], ardal amaethyddol bwysicaf y wlad honno, a Sindh. Yn ogystal, afon Indus yw prif ffyhonnell dŵr yfed ym Mhacistan.
 
Mae afon Indus yn tarddu yn [[Tibet|Nhibet]]; mae'n cychwyn yn nghyflif afonydd Sengge a Gar sy'n llifo o gadwynau Nganglong Kangri a Gangdise Shan yn y wlad honno. Mae hi'n llifo i'r gogledd-orllewin trwy [[Ladakh]]-[[Baltistan]] i [[afon Gilgit]], ychydig i'r de o'r [[Karakoram]]. Yma mae afonydd llai Shyok, Shigar a Gilgit yn cludo dŵr o [[rhewlif|rewlifau]]'r mynyddoedd mawr i'r afon. Ger [[Nanga Parbat]] mae'n rhedeg trwy yddfau cul tua 4500 – 5200 m (15,000-17,000 troedfedd) i fyny. Mae'n cylchu'n araf i'r de, ac yn dod allan o'r bryniau rhwng [[Peshawar]] a [[Rawalpindi]] yn ngogledd Pacistan.