Samui: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Samui villabouw.jpg|250px|dde|bawd|Golygfa dros yr ynys.]]
Ynys oddi ar arfordir dwyreiniol [[Gwlad ThaiTai]] sy'n agos i dref [[Surat Thani]] ar y tir mawr yw '''Samui'''.
 
== Hanes ==
Mae’n debyg bod trigiolion cyntaf yr ynys wedi mynd yno tua phymtheg canrif yn ôl. Credir mai pysgotwyr o benrhyn Malay a De Tsieina oeddynt. Mae’r ynys yn ymddangos ar fapiau [[Brenhinllin Ming]] sy’n dyddio’n ôl i 1687 o dan yr enw Pulo Cornam. Mae’r enw Samui’n ddirgelwch ynddo’i hun. Efallai mai estyniad ar enw coeden frodorol i’r ynys, mui, ydyw, neu ffurf amhur o’r gair Tsieinieg Saboey sy’n golygu “hafan ddiogel”.
 
Tan yn hwyr yn yr 20g, cymuned hunan-gynhaliol ynysig oedd Samui, heb fawr ddim o gysylltiadau â gweddill Gwlad ThaiTai ar y tir mawr. Doedd dim ffyrdd ar yr ynys tan y 1970au cynnar a chymerai’r daith 15 km o hyd o un ochr o’r ynys I’r llall ddiwrnod cyfan o gerdded trwy’r siwngl mynyddig yng nghanol yr ynys.
 
Erbyn hyn, mae poblogaeth o tua 47000 o bobl ar yr ynys. Ei phrif ffynonellau incwm yw’r diwydiant twristiaeth, yn ogystal ag allforio cnau cocos a rhwber. Mae [[maes awyr]] rhyngwladol bellach ar yr ynys a chanddo deithiau awyr ar yr awr i [[Bangkok]] a nifer o gysylltiadau â meysydd awyr eraill yng Ngwlad ThaiTai ac yn rhanbarth De-ddwyrain Asia. Er bod yr ynys yn hybu delwedd o baradwys heb ei ail, mae’r twf economaidd wedi dod â nid yn unig llewyrch, ond newidiadau yn amgylchedd a diwylliant yr ynys, sydd wedi creu anghydweld rhwng trigolion lleol a mewnfudwyr o rannau eraill o’r wlad ac o dramor. Bydd llong Cunard MS Queen Victoria (llong i dros ddwy fil o deithwyr) yn angori ar Samui yn ystod môr-daith 2008, sy’n adlewyrchu statws a thwf Samui fel lle gwyliau poblogaidd tu hwnt.
 
[[Categori:Ynysoedd Gwlad ThaiTai]]